Menu
Home Page

Ysgol Gymraeg Bro Helyg

Gosod Sylfaen gadarn ar gyfer dyfodol disglair

Gofalwyr Ifanc / Young Carers

Gofalwyr Ifanc

Young Carers

Ydych chi’n helpu i ofalu am rywun gartref ac yn chwilio am gyngor, cefnogaeth /  rhywun i siarad â? Cysylltwch â Mrs Marshman am fwy o wybodaeth.

 

Do you care for someone at home and looking for support / someone to talk to? Contact Mrs Marshman for more information.

 

Adnabod a Chefnogi Gofalwyr Ifanc yn Ysgol Gymraeg Bro Helyg ac Ysgol Gymraeg Tredegar

 

Yn YGBH ac YGT, rydym yn deall bod rhai o'n disgyblion yn ofalwyr ifanc. Gofalwr ifanc yw rhywun o dan 18 oed sy'n gofalu, yn ddi-dâl, am aelod o'r teulu neu ffrind sy'n dioddef o salwch meddyliol neu gorfforol, sy'n fregus, yn anabl, neu sy'n camddefnyddio sylweddau. Mae'r bobl ifanc hyn yn aml yn ysgwyddo cyfrifoldebau gofalu ymarferol a/neu emosiynol y byddai disgwyl i oedolyn eu cyflawni fel arfer.

 

Mae ymchwil yn awgrymu bod o leiaf 800,000 o ofalwyr ifanc yn y DU, ond nid yw llawer yn sylweddoli eu bod yn ofalwr ifanc. Mae hyn yn awgrymu y gallai fod cymaint â chwech o ofalwyr ifanc mewn dosbarth o 30 o ddisgyblion.

 

Rydym yn cydnabod y gall gofalwyr ifanc fod angen ychydig o gefnogaeth ychwanegol i fwynhau a gwneud yn dda yn yr ysgol. Yn YGBH ac YGT, rydym wedi ymrwymo i adnabod a chefnogi'n effeithiol bob disgybl sy'n ofalwr ifanc. Mrs. Marshman yw ein Harweinydd Gofalwyr Ifanc, sy'n gyfrifol am sicrhau bod pob gofalwr ifanc yn gallu mwynhau'r ysgol a gwneud cynnydd da.

 

Os ydych chi'n credu y gallai eich plentyn fod yn ofalwr ifanc, neu y gallai gael ei effeithio gan unrhyw un o'r materion a amlygwyd gennym, rhowch wybod i Mrs. Marshman trwy lenwi'r ffurflen sy’n dod mas pob mis Medi. Os nad ydych yn gyfforddus yn gwneud hyn, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, cysylltwch â Mrs. Marshman yn uniongyrchol drwy e-bost - williamst337@hwbcymru.net, gan nodi'r neges 'Gofalwyr Ifanc'.

 

Bydd yr holl wybodaeth a roddir i ni yn cael ei thrin yn sensitif ac ni fydd unrhyw wybodaeth yn cael ei rhannu heb eich gwybodaeth. Rhowch wybod i ni drwy athro'r dosbarth neu drwy'r manylion cyswllt uchod os oes angen ffurflen gais gofalwyr ifanc arnoch.

 

Identifying and Supporting Young Carers at Ysgol Gymraeg Bro Heyg and Ysgol Gymraeg Tredegar

 

At YGBH and YGT, we understand that some of our pupils are young carers. A young carer is someone under 18 who provides unpaid care for a family member or friend who is mentally or physically unwell, frail, disabled, or misuses substances. These young people often take on practical and/or emotional caring responsibilities typically expected of an adult.

 

Research indicates there are at least 800,000 young carers in the UK, yet many don't realize they are one. This suggests there could be as many as six young carers in a class of 30 pupils.

 

We recognise that young carers may need extra support to thrive at school. At YGBH and YGT, we are dedicated to identifying and effectively supporting all pupils who are young carers. Mrs. Marshman is our Young Carer Lead, responsible for ensuring all young carers can enjoy school and make good progress.

 

If you believe your child might be a young carer, or could be affected by any of the issues mentioned, please let Mrs. Marshman know by filling in the form that is distributed every September. If you prefer not to do this, or have further questions, please contact Mrs. Marshman directly via email at williamst337@hwbcymru.net, marking the message 'Young Carers'.

 

All information shared with us will be handled sensitively and no information will be disclosed without your knowledge. Please inform the class teacher or use the contact details above if you require a young carers application form

 

Top