Croeso i wefan Ysgol Gymraeg Bro Helyg. Bro Helyg yw’r unig ysgol cyfrwng Cymraeg ym Mlaenau Gwent ac mae ein disgyblion, o 3 - 11 oed, yn teithio o bob cornel o’r Sir er mwyn dysgu trwy’r iaith Gymraeg. Rydym yn ffodus iawn i gael adeilad modern adeiladwyd ar ein cyfer yn 2010 a chyfleusterau ac adnoddau gwych er mwyn cefnogi’n dysgwyr.
Ein datganiad cenhadaeth: ‘Gosod Sylfaen gadarn ar gyfer dyfodol disglair,’ sydd wrth wraidd pob penderfyniad yn yr ysgol – er mwyn sicrhau bod ein disgyblion yn derbyn yr addysg orau posibl ac yn datblygu’n unigolion cyfrifol sy’n chwarae rhan bositif ac adeiladol yn y gymdeithas.
Mae hawl gan bob plentyn i fod yn rhan o gymdeithas dysgu ofalgar ac anelwn at hyn mewn partneriaeth gyda rhieni, Llywodraethwyr a’r Awdurdod Addysg Lleol.
Wrth i chi grwydro’n gwefan, gobeithiwn y byddwch yn dod o hyd i’r wybodaaeth rydych yn edrych amdani ac y byddwch yn dod i adnabod ein hysgol yn well, ond mae yna groeso i chi gysylltu â’r ysgol trwy e-bost neu alwad ffôn os hoffech mwy o wybodaeth.
CROESO CYNNES IAWN I DEULU YSGOL GYMRAEG BRO HELYG!
Welcome to Ysgol Gymraeg Bro Helyg’s website. Bro Helyg is the only Welsh-medium school in Blaenau Gwent and our pupils, aged 3 – 11, travel from all over the County in order to learn through the medium of Welsh. We are very fortunate in that we have a modern, purpose-built building and excellent facilities and resources which support our learners.
Our mission statement: ‘Setting a firm foundation for a bright future,’ is what every decision in school is based upon – in order to ensure that our pupils have the best education possible and develop into responsible individuals who play a positive and constructive role in society.
Every child has a right to be part of a caring learning community and this is what we aim to achieve, in partnership with parents, governors and the Local Authority.
As you navigate our website, we hope that you find the information you are looking for and that you gain a better understanding of our school, but please feel free to contact us by telephone or by e-mail if you need any further information.
A VERY WARM WELCOME TO THE FAMILY OF YSGOL GYMRAEG BRO HELYG!
Ms Toghill (Headteacher)