Agorodd Ysgol Gymraeg Tredegar ym Mis Medi 2023 yn ein lleoliad dros dro, Tŷ a Pharc Bedwellte. Ar hyn o bryd rydym yn cynnig darpariaeth ar gyfer disgyblion Codi’n 3, Meithrin, Derbyn a Blwyddyn 1. Bydd cartref hir dymor yr ysgol ar Chartist Way unwaith mae’r adeilad wedi’i chwblhau.
Ysgol Gymraeg Tredegar opened its door to pupils for the first time in September 2023 at our temporary location, Bedwellty House and Park. We currently offer provision for Rising 3, Nursery, Reception and Year 1 pupils. The school’s long-term home will be on Chartist Way once the school building has been completed.
Ein datganiad cenhadaeth: ‘Gosod Sylfaen gadarn ar gyfer dyfodol disglair,’ sydd wrth wraidd pob penderfyniad yn yr ysgol – er mwyn sicrhau bod ein disgyblion yn derbyn yr addysg orau posibl ac yn datblygu’n unigolion cyfrifol sy’n chwarae rhan bositif ac adeiladol yn y gymdeithas.
Mae hawl gan bob plentyn i fod yn rhan o gymdeithas dysgu ofalgar ac anelwn at hyn mewn partneriaeth gyda Rhieni, Llywodraethwyr a’r Awdurdod Addysg Lleol.
Wrth i chi grwydro’n gwefan, gobeithiwn y byddwch yn dod o hyd i’r wybodaaeth rydych yn edrych amdani ac y byddwch yn dod i adnabod ein hysgol yn well, ond mae yna groeso i chi gysylltu â’r ysgol trwy e-bost neu alwad ffôn os hoffech mwy o wybodaeth.
CROESO CYNNES IAWN I DEULU YSGOL GYMRAEG TREDEGAR!
Our mission statement: ‘Setting a firm foundation for a bright future,’ is what every decision in school is based upon – in order to ensure that our pupils have the best education possible and develop into responsible individuals who play a positive and constructive role in society.
Every child has a right to be part of a caring learning community and this is what we aim to achieve, in partnership with parents, governors and the Local Authority.
As you navigate our website, we hope that you find the information you are looking for and that you gain a better understanding of our school, but please feel free to contact us by telephone or by e-mail if you need any further information.
A VERY WARM WELCOME TO THE FAMILY OF YSGOL GYMRAEG TREDEGAR!